Boed fy nghalon iti'n demel,
Boed fy ysbryd iti'n nyth,
Ac o fewn y drigfan yma
Aros, Iesu, aros byth:
Gwledd wastadol
Fydd dy bresenoldeb im.
Awr o'th bur gymdeithas felys,
Awr o weld dy wyneb-pryd
Sy'n rhagori fil o weithiau
Ar bleserau gwag y byd:
Mi ro'r cwbwl
Am gwmpeini pur fy Nuw.
Datrys, datrys fy nghadwynau,
Gad i'm hysbryd fynd yn rhydd;
'Rwyf yn blino ar y t'wyllwch,
Deued, deued golau'r dydd:
Yn y golau
Mae fy enaid wrth ei fodd.
Gwawrddydd, gwawrddydd yw fy mywyd,
Gweld y wawrddydd, 'rwyf yn iach:
Mi arhosaf hyd pan ddelo -
Daw, hi ddaw 'mhen gronyn bach:
Tyred, tyred,
Im gael gweld fy ngwlad fy hun.
Awr o'th bur :: Awr o dy Mi ro'r cwbwl :: Rhoddaf bopeth gwmpeini pur :: gymdeithas bur Datrys, datrys :: Dadrys, dadrys
Tonau:
gwelir: |
May my heart be a temple to thee,
May my spirit be a nest to thee,
And within this dwelling-place
Stay, Jesus, stay forever:
A perpetual feast
Thy presence will be to me.
An hour of thy pure, sweet company,
An hour of seeing thy countenance
Is a thousand times better
Than the empty pleasures of the world:
I will give the whole lot
For the pure company of my God.
Undo, undo my chains,
Let my spirit go free;
I am ailing because of the darkness,
May it come, may the light of day come:
In the light
My soul is be content.
Daybreak, daybreak is my life,
To see the daybreak, I am well:
I will stay as long as I will -
Yes, it is coming in a little while:
Come, come,
That I may see my land for myself.
An hour of thy pure :: An hour of thy I will give the whole lot :: I will give everything pure company :: pure fellowship :: tr. 2008 Richard B Gillion |
|